# Y Cofnod
Sioned Puw Rowlands
Teithiais yn y diwedd ymhell, mewn car. Wyth awr wedi fy nghau mewn sêt, yn rhythu o ’mlaen, fy nhroed yn stond ar y sbardun. Y tirlun yn ddiffaith, dim byd i’w weld ond y ceir, yn sglefrio fel sebon mewn sinc o un lôn i’r llall, a golau’r haul efo…